A modern voice for today’s woman

You are in:  Women's Institute > About the WI > NFWI-Wales > Digwyddiadau >

Digwyddiadau

Cynhadledd Flynyddol, Canolfan Hamdden Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro: 15/16 Ebrill 2008

Mynychodd dros 700 o aelodau ein Cynhadledd Flynyddol o dan ofal Ffederasiwn Sir Benfro. Thema'r gynhadledd oedd ‘Glannau Môr ac annerchwyd gan y siaradwyr canlynol:-

Trevor Fishlock - awdur, darlledwr, a chyflwynwr;

Debra Griffiths - cymerodd ei theulu rhan yn Coal House, cyfres teledu BBC Wales;

Julian Cremona - Pennaeth Canolfan Maes Dale Fort;

Aleathia Mann - Trysorydd Anrhydeddus FfCSYM.

Siaradwyr Trevor Fishlock, Julian Cremona a Debra Griffiths gyda Marylyn Haines Evans

 

Eisteddfod Ddwyieithog Rhyngsirol: 6 Hydref 2007
Mynychodd 300 o aelodau ar draws Gymru yr Eisteddfod yng Nghanolfan y Celfyddydau, Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Cymerodd Ffederasiynau ac aelodau unigol rhan mewn nifer o gystadlaethau yn amrywio o adroddiad digri, deuawd agored a siarad ar y pryd i ddawnsio llinell, corau, cystadlaethau ysgrifenedig, celf a chrefft a ffotograffiaeth. 

Llongyfarchiadau i enillwyr yr Eisteddfod:-

1af      Ceredigion
2il       Sir Gâr
3ydd   Powys Brycheiniog

Annette Thomas o Bowys Brycheiniog yw enillydd Cystadleuaeth y Gadair
Rydym yn ymestyn ein llongyfarchiadau hefyd i Annette Thomas, Powys Brycheiniog a enillodd Cystadleuaeth y Gadair. Fedrwch ddadlwytho’r canlyniadau llawn a’r delyneg a dderbyniwyd ar gyfer Cystadleuaeth y Gadair gan Annette Thomas o’r adran ‘dadlwytho’ ar y dde.

Annette Thomas yn cael ei hurddo yn seremoni cadeirio'r Bardd